
LTL Cymru
Pwy ydym ni?
LTL Cymru yw rhaglen LTL yng Nghymru, yr elusen ar gyfer y DU i gyd sy’n ymroddedig i sicrhau y gall pob plentyn elwa ar ddysgu a chwarae sy’n eu hysgogi yn yr awyr agored fel rhan o’u haddysg.
Beth ydym yn ei wneud?
Rydym yn cyfoethogi bywydau plant yng Nghymru drwy gynyddu’r cyfleoedd ar gyfer ymarfer iach, chwarae creadigol, gwneud ffrindiau, dysgu drwy wneud a dod i gysylltiad â’r byd naturiol. Rydym yn cyflawni hyn drwy:
- weithio ochr yn ochr ag ysgolion a meithrinfeydd i’w cynorthwyo i roi prosiectau datblygu ymarferol ar waith sy’n gweddnewid eu mannau awyr agored a phrofiadau ysgol eu plant
- galluogi ysgolion a lleoliadau ledled Cymru i ddatblygu a defnyddio eu meysydd chwarae yn greadigol drwy raglenni hyfforddiant, ymweliadau ymgynghorol, adnoddau ysbrydoledig mewn print, ar ffilm ac ar-lein, gwasanaethau cynorthwyo aelodau a chymorth pwrpasol i Awdurdodau Lleol a phartneriaid eraill
- hyrwyddo pwysigrwydd mannau awyr agored a phrofiadau o ansawdd i blant yn eu hysgolion a’u hysgolion meithrin
Y gwahaniaeth rydym yn ei wneud
Mae ein harolygon o ysgolion sydd wedi gwella eu meysydd chwarae yn dangos y manteision:
- dywedodd 85% o athrawon ei fod yn arwain at ddysgu mwy creadigol ac ymwybyddiaeth amgylcheddol.
- dywedodd 85% bod mwy o chwarae tu allan iach
- dywedodd 65% bod agweddau at ddysgu wedi gwella
- dywedodd 73% bod ymddygiad wedi gwella
- dywedodd 64% bod llai o fwlio
- dywedodd 84% bod gwell rhyngweithio cymdeithasol
Rhagor o wybodaeth am pam bod ein gwaith mor bwysig i blant a phobl ifanc.