Achievements

Ein cyflawniadau yng Nghymru

Mae miloedd o blant ledled Cymru wedi’u hannog a’u cefnogi i chwarae a dysgu yn yr awyr agored yn sgil gwaith LTL Cymru. Drwy weithio ochr yn ochr â Llywodraeth y Cynulliad, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a phartneriaid eraill, rydym wedi:

  • Hyfforddi miloedd o ymarferwyr blynyddoedd cynnar, athrawon ac ymgynghorwyr addysg ledled Cymru drwy ddigwyddiadau hyfforddi o ansawdd uchel yn genedlaethol a rhanbarthol. Mae cyfranogwyr yn gwerthfawrogi’r digwyddiadau hyfforddi oherwydd natur ysgogol ac ymarferol yr hyfforddiant. Gellir addasu ein modiwlau hyfforddi ar gyfer gwahanol leoliadau a sefyllfaoedd – mae rhagor o fanylion yma.
  • Llunio arweiniad cynhwysfawr i helpu lleoliadau blynyddoedd cynnar i ddatblygu ansawdd y mannau awyr agored ar gyfer dysgu a chwarae. Mae copïau caled o’r cyhoeddiad dwyieithog 88 tudalen wedi’u dosbarthu i 3,000 o leoliadau cynradd a blynyddoedd cynnar ledled Cymru, gydag adnoddau ategol pellach ar gael am ddim ar-lein i bob lleoliad blynyddoedd cynnar ac ysgol gynradd yng Nghymru.
  • Sefydlu gwasanaeth ymweliadau ymgynghori ar gyfer ysgolion a lleoliadau ledled Cymru, gan roi cyfle iddynt gael cyngor a chymorth yn y fan a’r lle i wella eu mannau awyr agored ar gyfer dysgu a chwarae. Mae rhagor o fanylion yma
  • Darparu cymorth i gannoedd o ysgolion a lleoliadau ledled Cymru drwy ein rhaglen cynorthwyo aelodau. Yn ogystal â chymorth a chyngor ar y ffôn neu e-bost, rydym yn darparu cylchlythyrau bob yn ail fis sy’n llawn ysbrydoliaeth a syniadau ymarferol a mynediad ar-lein i gronfa adnoddau gynhwysfawr – mae rhagor o wybodaeth am aelodaeth yma
  • Cyfrannu’n sylweddol at y Llawlyfr Dysgu yn yr Awyr Agored, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y Cynulliad, sy’n darparu cymorth ymarferol i ymarferwyr ar integreiddio dysgu yn yr awyr agored i’w haddysgu.
  • Arian y gwaith o gynnwys dysgu a chwarae yn yr awyr agored yn y Cyfnod Sylfaen yng Nghymru. Drwy greu’r Modiwl Dysgu yn yr Awyr Agored ac adeiladu gallu gyda Swyddogion Cymorth Hyfforddiant Cyfnod Sylfaen, rydym wedi bod yn allweddol wrth gyflwyno arferion da mewn chwarae a dysgu yn yr awyr agored drwy sector blynyddoedd cynnar Cymru.
  • Rhoi’r wybodaeth angenrheidiol i arolygwyr Estyn allu gwerthuso ansawdd dysgu a chwarae yn yr awyr agored.
  • Codi proffil dysgu a chwarae yn yr awyr agored drwy wasg addysgol Cymru.
  • Arwain y ffordd o ran ymdrechion i sicrhau bod ansawdd mannau awyr agored ar gyfer dysgu a chwarae yn rhan annatod o raglen adeiladu ac adnewyddu ysgolion yr 21ain Ganrif. Cefnogwyd yr arolwg Cymru gyfan o ysgolion i sicrhau bod cyflwr ac addasrwydd meysydd chwarae ysgolion yn rhan sylfaenol o’r arolwg (gan gynnwys hyfforddi arolygwyr a datblygu dull o archwilio meysydd chwarae ysgolion) a fydd yn cael ei ddefnyddio i lywio blaenoriaethau’r rhaglen gyfalaf.
  • Datblygu partneriaethau effeithiol gyda sefydliadau o bob math, gan gynnwys Llywodraeth y Cynulliad, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Estyn, Partneriaeth Real World Learning Cymru, Fforwm Coetiroedd ar gyfer Dysgu, Eco-Ysgolion, ContinYou Cymru, Groundwork, Chwarae Cymru, MYM, CyMAL, Panel Cynghorwyr Addysg Awyr Agored a Rhwydwaith Ysgolion ADCDF.

LTL Cymru

c/o 3rd Floor Southside Offices

The Law Courts

Winchester

Hampshire SO23 9DL

01962 846258