
Rydym yn gweithio gydag amryw byd o bartneriaid i ddatblygu prosiectau sy’n galluogi ysgolion a lleoliadau i weddnewid eu mannau awyr agored ar gyfer plant. Mae pob prosiect yn unigryw ac wedi’i deilwra’n arbennig ar gyfer anghenion yr ysgol, lleoliad neu bartner penodol sy’n gweithio gyda ni. Mae’r enghreifftiau a restrir yma yn cynnig blas ar ein gwaith.
Dathlu tyfu ffrwythau lleol a chreu perllannau traddodiadol mewn ysgolion.
Mae gan Gymru dreftadaeth tyfu ffrwythau gryf ac amrywiol sydd wedi mynd yn angof i raddau helaeth. Tyfwyd afalau yma cyn belled yn ôl â’r 6ed Ganrif OC ac mae dros 20 o fathau sydd â chysylltiadau â diwylliant a thraddodiadau Cymru. Mae llawer iawn o berllannau wedi’u colli yn y trigain mlynedd diwethaf – ac amcangyfrifir bod cymaint â 92% mewn rhai ardaloedd. Mae diflaniad y cynefin pwysig hwn (a oedd yn cynnal dros 1,800 o rywogaethau cysylltiedig) yn cael effaith fawr ar fioamrywiaeth. Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cynnwys perllannau traddodiadol ar y rhestr o Rywogaethau a Chynefinoedd o Bwysigrwydd Mawr i Fioamrywiaeth adran 42 Deddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig (2006).
Mae Tyfu yn cael ei gyflwyno mewn partneriaeth â phartneriaid lleol amrywiol ac mae’n cynorthwyo tua 1,000 o blant mewn 8 ysgol yng Nghaerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr, Sir Fynwy a Chasnewydd i fwynhau a chymryd camau ymarferol i warchod amrywiaeth a hynodrwydd tyfu ffrwythau’n lleol. Drwy weithio’n agos â’u cymunedau lleol, bydd ysgolion yn cynllunio a sefydlu eu perllannau ysgol eu hunain. Bydd y prosiect yn datblygu gwefan genedlaethol Tyfu hefyd – gan ddarparu’r holl ysbrydoliaeth ddiwylliannol ac arweiniad technegol sydd ei angen i gynorthwyo ysgolion ledled Cymru i sefydlu eu perllannau traddodiadol eu hunain.
'PlayOut' is our comprehensive toolkit providing step by step support to improve the use...
£40.00