Recent projects in Wales

Prosiectau diweddar yng Nghymru

Supergrounds

Ers 2004, mae LTL wedi gweithio gyda 55 o ysgolion cynradd ledled Cymru i ddarparu’r rhaglen Supergrounds a ariannir gan RBS. Mae hyn yn cynrychioli buddsoddiad o £91,000 yn y ddarpariaeth dysgu a chwarae yng Nghymru. Yn ogystal â dyfarniadau ariannol, mae’r ysgolion yn derbyn cymorth proffesiynol yn y fan a’r lle ar gyfer tyfu gerddi, mannau chwarae tu allan, dolydd bywyd gwyllt ac ystafelloedd dosbarth a mannau darllen awyr agored. Mae dros 3,400 o blant Cymru wedi elwa’n uniongyrchol ar welliannau i’w mannau awyr agored. Mae prosiectau Supergrounds yn cael eu harwain gan ddisgyblion, eu hwyluso gan ymgynghorydd LTL mewn ymateb i anghenion cwricwlaidd a chymunedol a chyd-destun ffisegol penodol yr ysgol. Mae ysgolion sydd wedi cymryd rhan wedi ymdrin â’r prosiect mewn modd trawsgwricwlaidd sydd, yng ngeiriau un athro, “wedi darparu cyfrwng rhagorol ar gyfer datblygu llais y disgyblion a’u hymdeimlad o gyfrifoldeb a dinasyddiaeth”.

Dangosodd gwerthusiad o’r prosiect a ariannir gan RBS fanteision sylweddol. O’r ysgolion a gymerodd ran:

  • dywedodd 85% bod gan eu plant well ymwybyddiaeth o’r amgylchedd.
  • dywedodd 89% bod eu plant yn cael mwy o hwyl ac yn hapusach.
  • teimlai 91% o ysgolion bod Supergrounds wedi cyflwyno ffyrdd newydd o addysgu a dysgu.
  • aeth 84% o ysgolion ymlaen i wneud gwelliannau pellach i’w meysydd chwarae.

Dream Playgrounds

Cystadleuaeth genedlaethol oedd Dream Playgrounds a gefnogwyd gan RBS ar gyfer Ysgolion Cynradd i ennill gwobr i adeiladu maes chwarae eu breuddwydion. Cymerodd bron i 70 o ysgolion o Gymru ran yn y gystadleuaeth, gan amlygu ffyrdd yr oedd eu meysydd chwarae yn methu â diwallu anghenion dysgu a chwarae eu disgyblion.

Derbyniodd yr ysgol fuddugol yng Nghaerffili gymorth technegol ac ariannol i ddatblygu cynllun cyffrous ar gyfer eu maes chwarae. Gyda chymorth cymuned ehangach yr ysgol, maent wedi creu cwt Affricanaidd, llwybr cadw’n heini, cadair storïwr a mwy. Mae rhagor o wybodaeth yma.

Cymal

Cefnogi rhaglenni addysg Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru drwy eu cynorthwyo i ddatblygu a defnyddio eu mannau awyr agored.

Nid ysgolion a lleoliadau blynyddoedd cynnar yw’r unig sefydliadau all ddefnyddio mannau awyr agored ar gyfer dysgu. Gyda’n cymorth ni, mae 14 o amgueddfeydd a llyfrgelloedd o bob cwr o Gymru yn datblygu ffyrdd newydd creadigol o ymgysylltu â phlant yn eu mannau awyr agored. Mae LTL Cymru yn darparu hyfforddiant ac ymweliadau ymgynghorol ynghyd â chymorth dilynol i ddatblygu adnoddau a gweithgareddau awyr agored a fydd yn cyfoethogi rhaglenni addysgol yn y lleoliadau treftadaeth hyn. Rhagwelir y bydd y dysgu a’r profiadau a fydd yn deillio o’r prosiect hwn ar gael yn fuan mewn canllaw arferion da ar gyfer amgueddfeydd a llyfrgelloedd ledled Cymru

 

LTL Cymru

c/o 3rd Floor Southside Offices

The Law Courts

Winchester

Hampshire SO23 9DL

01962 846258