Training and conferences

Hyfforddiant a chyngor

Mae athrawon ac ymarferwyr ym mhob maes pwnc yn dweud bod dysgu yn yr awyr agored yn gwella’r profiad o ddysgu drwy ennyn mwy o ddiddordeb ymhlith disgyblion, sicrhau mynediad i ddetholiad ehangach o adnoddau a gwneud cysylltiadau â’r byd y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth. Ond sut mae ymdopi â her amserlenni, tywydd a rheoli dosbarth yn yr awyr agored? A beth os nad yw’r man awyr agored yn fawr o le?

Os ydych yn canolbwyntio ar wella eich man awyr agored neu ddefnyddio'r hyn sydd gennych eisoes i wella dysgu, nod ein rhaglenni hyfforddi ymarferol yw’ch ysbrydoli a rhoi bob math o syniadau ymarferol i chi y gallwch eu defnyddio yn eich ysgol neu ysgol feithrin a’u rhoi ar waith.

Mae ein hyfforddiant yn cwmpasu detholiad o bynciau ar gyfer y sectorau ysgol a blynyddoedd cynnar yn benodol. Rydym yn cynnig cyrsiau hanner diwrnod a diwrnod cyfan ynghyd â rhaglenni datblygu proffesiynol hirach a gallwn gynnig modiwlau neu hyfforddiant penodol i ddiwallu’ch anghenion arbennig chi.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma neu cysylltwch â ni i drafod digwyddiad arbennig i ddiwallu’ch anghenion.

Ymweliadau ymgynghorol

Gallwn drefnu i weithiwr proffesiynol profiadol ymweld â’ch safle, trafod eich cynlluniau a phryderon a’ch cynghori ar sut allwch ddatblygu’ch mannau awyr agored i sicrhau gwell dysgu, chwarae, iechyd, bioamrywiaeth a datblygiad cymdeithasol. Gwasanaeth hyblyg yw hwn a all gynnwys ymweliad sylfaenol neu ei ymestyn i gynnwys gweithdy disgyblion neu staff ac adroddiad. Mae rhagor o wybodaeth yma

Mynediad diderfyn o bell i arbenigedd a chymorth proffesiynol

Mae ein pecynnau tanysgrifio yn ategu’n pecynnau cymorth, ac yn darparu tipyn mwy o fanylion, ond gellir eu prynu ar eu pen eu hunain.
Trwy dalu ffi tanysgrifio blynyddol gallwch gysylltu â’n harbenigwyr unrhyw bryd ar y ffôn neu e-bost a chewch ddefnyddio llyfrgell gynhwysfawr o adnoddau ar-lein.

Mae cylchlythyrau bob yn ail fis yn cynnig cyflenwad rheolaidd o syniadau ysbrydoledig ar gyfer dysgu a chwarae yn yr awyr agored a gall tanysgrifwyr fanteisio hefyd at ostyngiadau ar gyhoeddiadau, hyfforddiant a digwyddiadau LTL.

I gael mwy o wybodaeth am becynnau tanysgrifio ar gyfer: lleoliadau blynyddoedd cynnar; ysgolion; ymgynghorwyr prosiect a hwyluswyr.

LTL Cymru

c/o 3rd Floor Southside Offices

The Law Courts

Winchester

Hampshire SO23 9DL

01962 846258