Newid bywydau yng Nghymru.
Changing lives in Wales.
LtL Cymru
LtL Cymru yw rhaglen Gymraeg LtL, yr elusen yn y DU sydd wedi ymrwymo i wella dysgu a chwarae yn yr awyr agored ar gyfer plant.
LtL Cymru is the Welsh programme of LtL, the UK charity dedicated to enhancing outdoor learning and play for children.

Ydych chi eisiau cael gwybod mwy am ein gwaith ni?
Os felly, cysylltwch â ni i gael gwybod beth allwn ni ei wneud i chi.
Os felly, cysylltwch â ni i gael gwybod beth allwn ni ei wneud i chi.
Beth ydym yn ei wneud?
Rydym yn cyfoethogi bywydau plant yng Nghymru drwy gynyddu cyfleoedd am ymarfer iach, chwarae creadigol, gwneud ffrindiau, dysgu drwy wneud a dod i gysylltiad â’r byd naturiol.
Os yw hynny’n bosib, rydym yn annog pobl ifanc i leisio eu barn am y ffordd mae eu tiroedd yn cael eu defnyddio a’u gwella. O ganlyniad, maent yn dysgu, yn creu ac yn gofalu am rywbeth gwerthfawr; mae eu hunan-barch yn cynyddu a’u hymddygiad yn gwella, ynghyd â’u potensial i ddysgu a chyflawni.
Rydym yn cyflawni hyn drwy wneud y canlynol:

Gweithio ochr yn ochr ag ysgolion a meithrinfeydd i’w helpu i weithredu prosiectau datblygu ymarferol sy’n trawsnewid eu gofod awyr agored a phrofiadau eu plant yn yr ysgol.

Galluogi ysgolion a lleoliadau ledled Cymru i ddatblygu a defnyddio eu tiroedd yn greadigol drwy raglenni hyfforddi, ymweliadau cynghori, adnoddau ysbrydoledig ar ffurf print, ffilm ac ar-lein, gwasanaethau cefnogi aelodau a chefnogaeth bwrpasol i awdurdodau lleol a phartneriaid eraill.

Hyrwyddo pwysigrwydd gofod a phrofiadau awyr agored o safon yn eu hysgolion a’u meithrinfeydd ymhlith plant.
Y gwahaniaeth rydym yn ei wneud
Mae ein harolygon ar ysgolion sydd wedi gwella eu tiroedd yn dangos y manteision:

Ein cyflawniadau
Mae miloedd o blant ledled Cymru wedi cael eu hannog a’u cefnogi i godi allan i’r awyr agored i chwarae a dysgu o ganlyniad i waith LtL Cymru. Gan weithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a phartneriaid eraill rydym wedi gwneud y canlynol:

Arweinwyr Dysgu
Wedi arwain ar ymgorffori dysgu a chwarae awyr agored yn y Cyfnod Sylfaen yng Nghymru. Drwy greu’r Modiwl Dysgu Awyr Agored a meithrin gallu gyda Swyddogion Cefnogi Hyfforddiant y Cyfnod Sylfaen, rydym wedi bod yn allweddol mewn annog arfer da mewn chwarae a dysgu awyr agored ledled sector blynyddoedd cynnar Cymru.

Annog Gwelliant
Wedi llunio canllaw cynhwysfawr i helpu lleoliadau blynyddoedd cynnar i ddatblygu ansawdd eu gofod awyr agored ar gyfer dysgu a chwarae. Mae copïau papur o’r cyhoeddiad dwyieithog 88 tudalen wedi cael eu dosbarthu i 3,000 o ysgolion cynradd a lleoliadau blynyddoedd cynnar ledled Cymru: mae fersiwn i’w lawrlwytho ac adnoddau cefnogi pellach ar gael am ddim i holl leoliadau blynyddoedd cynnar Cymru yma.

Hyfforddi Cewri
Wedi hyfforddi miloedd o ymarferwyr blynyddoedd cynnar, athrawon a chynghorwyr addysg ledled Cymru drwy ddigwyddiadau hyfforddi o ansawdd uchel ar lefel genedlaethol a rhanbarthol. Mae ein digwyddiadau hyfforddi’n hynod uchel eu parch ymhlith cyfranogwyr sy’n gwerthfawrogi natur ysbrydoledig ac ymarferol ein hyfforddiant. Gellir addasu ein modiwlau hyfforddi ar gyfer gwahanol leoliadau a sefyllfaoedd.

Ansawdd Arolygu
Arolygwyr cymwys Estyn sydd â gwybodaeth i werthuso ansawdd dysgu a chwarae awyr agored.

Codi Ymwybyddiaeth
Wedi codi proffil dysgu a chwarae awyr agored drwy’r wasg addysgol yng Nghymru.

Rhoi Cyngor
Wedi datblygu gwasanaeth ymweld ymgynghorol ar gyfer ysgolion a lleoliadau ledled Cymru, gan roi mynediad iddynt at gyngor a chefnogaeth ar y tir i wella eu gofod awyr agored ar gyfer dysgu a chwarae.

Cefnogi Ysgolion
Wedi darparu cefnogaeth i gannoedd o ysgolion a lleoliadau ledled Cymru drwy ein rhaglen cefnogi aelodaeth. Yn ychwanegol at gefnogaeth a chyngor dros y ffôn ac ar e-bost, rydym yn darparu cylchlythyr bob deufis sy’n llawn rhaglenni ysbrydoledig ac ymarferol, a mynediad ar-lein i gronfa adnoddau gynhwysfawr – mwy o wybodaeth am aelodaeth.

Cyfrannu at Ymchwil
Wedi cyfrannu’n sylweddol at y Llawlyfr Dysgu Awyr Agored, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, yn darparu cefnogaeth ymarferol i ymarferwyr ar integreiddio dysgu awyr agored yn eu haddysgu.

Meddwl yn Arloesol
Wedi sicrhau bod ansawdd y gofod awyr agored ar gyfer dysgu a chwarae’n rhan greiddiol o raglen ysgolion yr 21ain Ganrif wrth adeiladu ac adnewyddu ysgolion. Aethom ati i gefnogi arolwg Cymru gyfan ar ysgolion er mwyn sicrhau bod cyflwr ac addasrwydd tiroedd ysgolion yn rhan sylfaenol o’r arolwg (gan gynnwys hyfforddi’r syrfëwyr a datblygu adnodd archwilio tiroedd ysgolion) a gaiff ei ddefnyddio fel sail i flaenoriaethau’r rhaglen gyfalaf.